Arsylwi Drws Agored – Dysgu Grŵp Mawr

Yn ystod mis Tachwedd 2019, roeddwn ddigon ffodus i arsylwi dau aelod o staff yn dysgu a rhoi cefnogaeth addysgu i grŵp mawr o fyfyrwyr. Y cyntaf, Dr. Mark Coleman o Goleg Peirianneg, yn dysgu dros 150 o fyfyrwyr yn ei ddosbarthiadau, a Dr. Sian Rees o Goleg y Celfyddydau a Dyniaethau yn dysgu grŵp o tua 70 myfyriwr Ôl-raddedig a ddysgir.

 

Fe wnes i hyn trwy ein Rhaglen Drws Agored https://salt.swan.ac.uk/open-door/ . Roeddwn eisiau arsylwi athro’n dysgu grwpiau mawr gan nad yw’n rhywbeth dwi wedi cael y profiad o, felly roedd yn rhywbeth roeddwn eisiau tystio i fy hun, er i fi weld cyngor o’r AAU: Cyngor ar gyfer Dysgu Grwpiau Mawr

Mae Mark a Sian wedi ennill ‘ELTA’ (Excellence in Learning and Teaching Award) enwebir gan fyfyrwyr, a hefyd wedi bod yn cefnogi SALT yn rhoi cyfarwyddyd ar ddysgu trwy ein TUAAU, a hefyd yn ein Trafodaethau TEL (Fe wnaeth Mark siarad am sut mae’n defnyddio Slido yn un o Drafodaethau TEL ym mis Mai 2019: Defnyddio Slido a thaclau eraill i gynnwys y gynulleidfa – copïwch ac agorwch y ddolen yn Chrome/Firefox i’w wylio a gwrando)

Mae’r Rhaglen Drws Agored yn rhoi fframwaith llac iawn i’ch arsylwad, rydw i wedi ei gynnwys yn y post yma.


Cynnwys y sesiynau

Roedd dosbarth Mark yn ailadroddiad o sesiwn rhoddir i beirianyddion y flwyddyn gyntaf, sydd yn dod o gefndiroedd diwylliannol a disgyblaethau amrywiol (y garfan gyfan tua 500 o fyfyrwyr). Cynhelir mewn darlithfa â rhenciau, byrddau gwyn, 3 sgrin, a lle i tua 180 o bobl. Roedd y sesiwn 2 awr ar ddarlith 15 ar ewtecteg – gwelir y llun uchod a’r ddolen yma https://www.sciencedirect.com/topics/engineering/eutectics.

 

Roedd Sian yn edrych ar Gysylltiadau Cyhoeddus a brandio gyda’i myfyrwyr lefel meistr, mewn ystafell oedd â llawr fflat, seddau sefydlog mewn rhesi yn nhwr Faraday. Tuag at y cefn, roedd yna ‘platfform’ ond roedd symudiad i’r athro yn gyfyng i un eil ar ochr yr ystafell.

 


Beth wnes i arsylwi?

Fe wnes i arsylwi addysgwyr hyderus yn cysylltu â chyfathrebu gyda’r myfyrwyr, ac yn gallu cysylltu’n gorfforol gan symud o gwmpas yr ystafell er gwaethaf y rhwystrau – seddau sefydlog mewn rhesi a grisiau er enghraifft.

Mae Mark yn defnyddio Slido (https://www.sli.do/) i ddarganfod dealltwriaeth y myfyrwyr a hefyd fel ffordd o allu’r myfyrwyr i ofyn cwestiynau wrth iddo ddysgu – mae’n berffaith i ddelio â dosbarthiadau mawr, ond hefyd yn cyfeirio at faterion o gynwysoldeb i’r rheini sydd eisiau aros yn anhysbys/yn rhy ofnus i ofyn cwestiwn (K4, V1).

Mae yna dechnolegau eraill i gyflawni nodau tebyg – gwelir tudalennau we SALT:  https://salt.swan.ac.uk/cy/polling-solutions-aka-clickers/. Mae yna lawer o ymchwil ar y defnydd o’r fath yma o daclau ar gyfer cysylltu a chyfeirio at broblemau cynwysoldeb, hefyd, ei fod yn gwneud dysgu’n hwylus (Gwelir Chan, Wan and Ko, 2019) – rhywbeth oedd yn amlwg yn nosbarth Mark gan fod cystadleuaeth ynghlwm iddo!)

Mae Sian yn gofyn i’w myfyrwyr i weithio mewn partneriaid (Troi (neu feddwl), Paru, Rhannu o Gyngor yr AAU) ac mae hi’n gosod cwestiynau’n aml iddynt drafod ac ateb, wrth iddynt drafod, mae hi’n ‘cerdded yr ystafell’ ac yn hyrwyddo eu dysgu ac yn annog atebion wrth yr holl fyfyrwyr. Mae yna nifer o esiamplau o ddysgu cyfredol yn cael ei ddefnyddio gan Sian, lle’n briodol i nodweddion y myfyrwyr (K2, K3).

Mae’r ddau athro yn defnyddio dulliau i gysylltu sydd yn briodol i’w grŵp, ac yn dod ag ymchwil eu hun i’r sesiwn (K1). Un o’r pethau gorau am y rhaglen Drws Agored yw’r gallu i gael trafodaeth dda gyda’r ddau ohonynt am eu rhesymau i ddulliau gwahanol o ddysgu, dyluniad y dosbarth a’r gefnogaeth ar gyfer addysgu. Roedd ‘Siarad Dysgu’ yn ysbrydoledig.

Beth sy’n ddefnyddiol i’w gofio, nad ydych o angenrheidrwydd yn arbenigwyr yn y pwnc mae’ch cydweithwyr yn dysgu – peirianneg a chysylltiadau cyhoeddus yn y mater yma. Fe wnes i ddysgu pethau oddi wrthynt, o Mark ddysgais am nodweddion a chyfraneddau aloeon a sut mae hynny’n effeithio’i ansawdd cyfunol. Wrth Sian, sut i ymdrin ag ymgyrch marchnata, heb os am y cynnyrch.

Mae’r rhaglen Drws Agored yn gofyn y cwestiwn:

A wnes i weld beth oeddwn eisiau?

Do! Ges i gyfle amhrisiadwy i ganfod lawer o gwestiynau dilynol, gyda’r ddau ohonynt a hoffem feddwl bod y drafodaeth wedi cyfoethogi’r ymarferion o’r ddau ochr. Dyna pam mae’r rhaglen Drws Agored yn cynnig cyfle gwych i barhau i wella’ch ymarfer (“gwnewch CPD”) ac yn hyrwyddo agwedd allweddol o ddysgu o eraill (King, 2019). Fel Cymrawd o’r AAU (bob categori)-, mae’n bwysig i Aros Mewn Arfer Da ac felly I Fyth Orffen Dysgu.

Never Stop Learning

Louise Rees, Uwch Ddatblygydd Academaidd (AAU), SALT (Twitter: @LJ_Rees, #SUSALTHEA)


Darllen Ymhellach

Chan, S.C.H.; J.C.L. Wan and S. Ko (2019) ‘Interactivity, active collaborative learning, and learning performance: The moderating role of perceived fun by using personal response systems’, in The International Journal of Management Education, Vol 17 (1) 94-102 DOI: https://doi.org/10.1016/j.ijme.2018.12.004

 

 

Implement Active Learning Strategies, https://serc.carleton.edu/introgeo/gallerywalk/active.html, Accessed December 19 2019

Ellis, R. (2019) Active Learning in HE blogpost. https://salt.swan.ac.uk/getting-active/  Accessed December 19 2019.

Higher Education Academy (2015) “Large Group Teaching Tips” Higher Education Academy, York. https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/large-group-teaching-tips

King H. (2019) ‘Continuing Professional Development: What do award-winning academics do?’ Education Developments, Issue 20.2, Staff and Educational Development Association (SEDA)

Ko, L.N.,  Rana J. and S. Burgin (2017) ‘Teaching & Learning Tips 5: Making lectures more “active”‘, International Journal of Dermatology, Vol. 57 (3), 351-354. DOI: https://doi.org/10.1111/ijd.13701

Papadopoulos P.M., Natsis, A, Obwegeser N. and A. Weinberger (2018) ‘Enriching feedback in audience response systems: Analysis and implications of objective and subjective metrics on students’ performance and attitudes’, in Journal of Computer Assisted Learning,  Vol. 35 (2),  305-316. DOI:  https://doi.org/10.1111/jcal.12332

SALT website:  https://salt.swan.ac.uk/polling-solutions-aka-clickers/

UKPSF:  https://salt.swan.ac.uk/about-the-hea-and-ukpsf/

Leave a Reply

Your email address will not be published.