Parchu Doniau a Dulliau Dysgu Amrywiol Ymagwedd Gyfunol

Ddydd Mercher 20 Chwefror, cymerais ran mewn gweithdy ynghylch “Parchu Doniau a Dulliau Dysgu Amrywiol: Ymagwedd Gyfunol”, yr un diweddaraf mewn cyfres o weithdai a drefnwyd gan ADAA ar “Saith Nodwedd Athro Prifysgol Da”. [1] Wedi’u hysbrydoli gan waith Arthur W. Chickering a Zelda F. Gamson [2], nod y gweithdai oedd dangos enghreifftiau o roi’r egwyddorion ar waith yn llwyddiannus (saith nodwedd addysgu da yn y brifysgol), gan ddarparu ysbrydoliaeth a chymorth i staff sydd am ddatblygu dysgu ac addysgu ymhellach yn eu maes.

Saith Egwyddor Arfer Da mewn Addysg Israddedig

Y gweithdy “7 Nodwedd” oedd fy mhrofiad cyntaf o ADAA a’u gweithgareddau. Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am ddarparu enghreifftiau o arfer gorau a rhagoriaeth addysgu ac am fy nghyflwyno i academyddion ac ymarferwyr proffesiynol o bob rhan o’r Brifysgol. Yn ogystal â phaned o de a bisgeden braf, mae bob amser cyffro (arwydd o frwdfrydedd a chyfnewid syniadau) mewn gweithdy 7 nodwedd sy’n rhoi hwb mawr ei angen yng nghanol yr wythnos.

Cafodd y gweithdy “Parchu Doniau a Dulliau Dysgu Amrywiol: Ymagwedd Gyfunol” ei arwain gan Melanie Hainke [2] ac Eve Moriarty [3] sydd wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn gweithio ar y cynllun peilot Dysgu Cyfunol sydd â’r nod o gefnogi academyddion i ddatblygu naill ai modiwl newydd neu ailddatblygu modiwl sefydledig gan ddefnyddio ymagwedd gyfunol.  Amcan arall oedd gwella profiad a boddhad myfyrwyr drwy roi mynediad ar-lein i ddeunyddiau i ategu addysgu wyneb yn wyneb. Bu Melanie yn canolbwyntio ar weithio gydag academyddion i ddatblygu modiwlau newydd neu addasu rhai sefydledig i hyrwyddo dysgu cyfunol tra roedd Eve yn gyfrifol yn bennaf am ymgorffori dulliau rith-wirionedd mewn modiwlau priodol.

Dysgu Cyfunol: “cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau digidol dynamig a chynnwys sy’n hwyluso dysgu unrhyw bryd/unrhyw le,” JISC

Fel gyda phob gweithdy arall ar y 7 Nodwedd, roedd profiad y cyfranogwyr a’u dealltwriaeth o’r pwnc yn amrywiol (sy’n gwneud trafodaethau’n fwy diddorol byth). Felly, yn ystod rhan gyntaf y gweithdy, gwahoddwyd pob bwrdd i drafod ystyr Dysgu Cyfunol iddyn nhw a rhannu eu casgliadau â gweddill yr ystafell. Yn dilyn y deialog hwn, pwysleisiodd Melanie mai’r gwahaniaeth rhwng defnydd sylfaenol o adnoddau amlfoddol wrth addysgu a dysgu cyfunol go iawn oedd bod yr ail un yn pwysleisio rhyngweithiadau a chysylltiadau rhwng dysgu ar-lein a gweithgareddau ac adnoddau wyneb yn wyneb. [4] Yn gryno, mae ymagwedd gyfunol yn gwneud dysgu’n fwy hygyrch a hyblyg ac, am ei bod yn helpu dysgwyr i roi gwybodaeth ar waith mewn amrywiaeth ehangach o sefyllfaoedd, yn fwy parhaol.

Yn ail ran y gweithdy, gofynnwyd i’r cyfranogwyr ddweud naill ai sut roedd eu haddysgu’n defnyddio dysgu cyfunol neu sut byddai’n elwa ohono. Cafwyd atebion o ddisgyblaethau mor amrywiol â Rheoli Newid, Daearyddiaeth ac Eifftoleg ac ar gyfer heriau addysgu penodol megis diwallu anghenion amrywiol  myfyrwyr rhyngwladol. Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd canfyddiad dysgu cyfunol mewn pynciau ceidwadol yn draddodiadol a’r angen i werthuso’n gyson batrymau newidiol o ran sut mae myfyrwyr yn dysgu, gan addasu adnoddau a dulliau yn ôl yr angen.

Yn ystod rhan olaf y gweithdy, gwahoddwyd y cyfranogwyr i wylio a myfyrio ar gyfres o fideos a gynhyrchwyd ar gyfer y cynllun peilot Dysgu Cyfunol. Cafodd y fideos (Emphasising Time on Task: Neal Harman [Gwyddoniaeth], Develops reciprocity and cooperation among students: Peter Dorrington a Will Harrison [Peirianneg], Encourages active learning: Richard Leonard-Davies [Y Gyfraith] eu dethol i amlygu agwedd benodol ar y 7 Nodwedd ac roeddent yn cynnwys cyfweliad ag academyddion a esboniodd y rhesymeg tu ôl i ailgynllunio eu modiwlau, y prosesau a’r canlyniadau a welwyd. Defnyddiwyd y fideos i ddangos y doniau a’r dulliau dysgu amrywiol y gellir eu parchu drwy ddefnyddio:

  • Delweddau pwerus
  • Adnoddau print/digidol wedi’u trefnu’n dda
  • Profiadau uniongyrchol, anuniongyrchol a rhithwir
  • Tasgau sy’n gofyn am sgiliau dadansoddi, syntheseiddio a gwerthuso
  • Cymwysiadau i sefyllfaoedd bywyd go iawn
  • Hunan-fyfyrio a hunanwerthuso
  • Cydweithredu a datrys problemau mewn grŵp

Gan ystyried y defnydd helaeth a wnaed o dechnoleg a meddalwedd arloesol yn y Cynllun Peilot Dysgu Cyfunol, roedd y cyfranogwyr yn awyddus i ddysgu am yr adnoddau a oedd ar gael iddynt a mynegwyd dymuniad i’r hyfforddiant fod ar gael yn ehangach.

Fel gyda phob gweithdy 7 Nodwedd, daeth hwn i ben yn rhy gyflym a bu’n rhaid i lawer o’r cyfranogwyr ruthro’n ôl i’w swyddfeydd neu eu darlithfeydd, yn ymrwymedig – gobeithio – i “newid un peth”. Bob tro, mae’r rhai sydd heb ymrwymiadau’n aros i barhau â’r drafodaeth.  Felly arhosodd Melanie ac Eve am amser ychwanegol, gan ateb cwestiynau pellach am eu gwaith a chynghori ar y ffordd orau o gyflwyno Dysgu Cyfunol i fodiwlau sefydledig.

[1] https://spark.adobe.com/page/vUuxhmKq2iJkz/

[2] https://files.eric.ed.gov/fulltext/ED282491.pdf

[3] melanie-jayne.hainke@swansea.ac.uk, https://twitter.com/melcurds

[4] e.e.moriarty@swansea.ac.uk

[5] https://twitter.com/mandyjjack/status/1098213474419777536

Leave a Reply

Your email address will not be published.