Wythnos DPP Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL): Dydd Llun 13eg – Dydd Gwener 17eg Mai

Trwy gydol yr wythnos yma, mae SALT yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ddysgu mwy am Ddysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg a’i defnydd arloesol mewn dysgu ac addysgu.

Shaking hands

Mae yna wahoddiad i staff Prifysgol Abertawe, o bob disgyblaeth, i gymryd rhan mewn unrhyw un o’r cyfleoedd DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) isod, i gynorthwyo datblygu gwybodaeth a sgiliau:


Ymweld â’n Padlet ‘TEL’ (cliciwch i ehangu / leihau)

Dyma fwrdd bwletin ar-lein gellir defnyddio i arddangos gwybodaeth ar unrhyw destun. Mae ein Padlet TEL yn dangos awgrymiadau TEL Tool sy’n cyd-fynd â’r ‘Chwe Math o Ddysgu ‘a nodwyd gan Diana Laurillard (2002), a ddefnyddir fel fframwaith ar gyfer cynllun dysgu ‘Arena, Blended, Connected’ (ABC) (gweler isod).

Mae Padlets yn rhyngweithiol felly, mae yna groeso i unrhyw gwestiynau neu sylwadau gallwn yna ymateb i.

Made with Padlet
Dewch i’n Digwyddiad Wyneb yn Wyneb (cliciwch i ehangu / leihau)

Dod yn Athro Gwell – Y Dosbarth wedi Trosi, gyda Dr Nigel Francis o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Dydd Mercher 15fed Mai 2019, 1-2yp, A019, Campws y Bae.

Cadwch le:
https://www.eventbrite.co.uk/e/7cs-seminar-becoming-a-better-teacher-the-flipped-classroom-tickets-57723896729

(Bydd yna recordiad o sesiwn Nigel ar gael ar ôl y digwyddiad rhag ofn nad ydych yn gallu mynychu.)

Cymerwch ran yn ein Trafodaethau TEL – Newydd i ddarpariaeth dpp SALT (cliciwch i ehangu / leihau)

Bydd Trafodaethau TEL yn digwydd ar Ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener, gan ddefnyddio Blackboard Collaborate, teclyn webinar a chyfathrebu ar-lein cydamserol.


Sesiynau Blasu’r Bore – 10.00-10.45yb
I gael profiad o drafodaeth ar-lein sylfaenol mewn amgylchedd dysgu ar-lein, byw, mewn sesiwn rhagarweiniol anffurfiol a chyfeillgar gyda Datblygwyr Academaidd SALT.


Trafodaethau TEL y Prynhawn
Trafod buddiannau pedagogeg o daclau TEL ar gyfer themâu amrywiol o ddysgu ac addysgu, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o drafodaethau ar-lein, cyfranogiad mewn webinar a dosbarthiadau rhithwir. Hyrwyddiad gan Ddatblygwyr Academaidd SALT.

Bydd pedwar testun:

  1. Polau fel ffordd i Atynnu Grwpiau Mawr
  2. Padlet
  3. Dysgu Cyfunol a Dysgu wedi Trosi
  4. Cynwysoldeb a Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth, gan gynnwys dolen i gadw lle.


Os oes unrhyw gwestiynau gennych am wythnos DPP TEL cysylltwch â:
r.e.ellis@abertawe.ac.uk, Ffon: 01792 604302
neu salt@abertawe.ac.uk

Dilynwch ni ar Drydar: susalt@susaltteam, #susaltcpd, #TELTALKS19


Comments are closed.