Dod yn Athro Gwell: Y Dosbarth wedi Trosi

Fe wnaeth Dr Nigel Francis o’r Ysgol Feddygaeth rhoi sesiwn ysbrydoledig yn SALT. Fe wnaeth mynd a ni trwy ei siwrnai gyda chyfrif cam wrth gam, fe wnaeth rhannu heriau, llwyddiannau a buddiannau o fabwysiadu dull wedi trosi wrth ddysgu.

Y Broses

Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys yn mynd allan i fyfyrwyr Nigel trwy fideo, gyda’r golwg bod nhw’n edrych ar yr adnoddau cyfarwyddol a gwneud y dasg, cyn y darlithoedd. Mae amser ‘yn y dosbarth’ yn cael ei ddefnyddio i gydweddu gwybodaeth gan siarad drwy waith cartref, ceisio ar gwestiynau newydd a chael cyngor un wrth un oddi wrth Nigel. Mae’r amser yma hefyd yn gyfle amhrisiadwy iddo fesur y lefel o ddealltwriaeth ac i addasu sesiynau er mwyn mynd i’r afael o unrhyw flychau mewn gwybodaeth. Mae myfyrwyr hefyd yn cael budd o waith pâr a grŵp trwy ddysgu’n seiliedig ar broblemau a gweithgareddau’n seiliedig ar dasgau. Y peth wnes i fwynhau clywed am oedd ynni Nigel i roi cyd-destun bywyd go iawn gyda phwyntiau asesu dilys sy’n galluogi iddynt ymchwilio a rhoi cais ar bethau gyda chyfoedion.

Eisiau rhoi cynnig arni? Dyma awgrymiadau Nigel:
  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried y buddiannau sbesiffig i’ch myfyrwyr yn y modiwl penodol.
  2. Peidiwch ddarlithio ddwywaith! Mae myfyrwyr yn edrych ar adnoddau gartref, gwneud tasg ac yna siarad drwy’r broses yn y dosbarth. Nid oes angen ailadrodd beth ddigwyddodd gartref.
  3. Byddwch yn barod i gefnogi a herio myfyrwyr yn y dosbarth gan eu bod nhw’n meddwl ar lefel uchel.
Peidiwch fod yn rhy uchelgeisiol
Peidiwch geisio trosi popeth !
Mae creu adnoddau yn cymryd amser
Gallwch ddechrau gydag adnoddau wedi gwneud yn barod
Mae cysylltiad cartref-i’r-dosbarth yn hanfodol
Gosodwch ddisgwyliadau uchel

Leave a Reply

Your email address will not be published.