Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Rwy’n academydd ‘damweiniol’

 

Mae cydnabyddiaeth broffesiynol yn bwysig mewn unrhyw ddiwydiant, ac nid yw addysg uwch yn eithriad.

 

Amdanoch chi?

Fy enw i yw Catherine Groves. Rwy’n academydd ‘damweiniol,’ a ddaeth i’r sector addysg uwch tua wyth mlynedd yn ôl o yrfa yn y trydydd sector lle roeddwn yn aelod o dîm uwch-reolwyr. Rwy’n Seicolegydd Galwedigaethol Siartredig ac rwyf wedi bod yn addysgu yn Ysgol Reolaeth Abertawe ers dwy flynedd. Rwy’n Gyfarwyddwr Rhaglenni Busnes a Marchnata Israddedig.

Pam oedd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi? Pam gwneud cais?

Cefais fy nghydnabyddiaeth Cymrodoriaeth tua phum mlynedd yn ôl yn fy sefydliad blaenorol, ac roedd yn broses a wnaeth fy ngrymuso a phrocio fy meddwl yn fy marn i. Yn bendant fe’m helpodd i ddeall mwy am yr hyn a oedd yn llwyddiannus gyda fy myfyrwyr a’r rheswm dros hynny. Pan ddes i Abertawe, yn bendant gwnaeth fy Nghymrodoriaeth gyda’r Academi Addysg Uwch fy ngwneud yn fwy cyflogadwy.

Ers cael fy mhenodi, rwyf wedi derbyn rôl Cyfarwyddwr y Rhaglen, ac rwyf wedi gorfod cynnig rhywfaint o arweinyddiaeth yn yr ysgol oherwydd hyn. Prin iawn oedd yr Uwch-gymrodorion yn yr Ysgol Reolaeth ar yr adeg honno, felly roeddwn yn teimlo y byddai gwneud cais am Uwch-gymrodoriaeth yn dangos pa mor bwysig oedd cydnabyddiaeth broffesiynol.

Beth gwnaethoch chi ei “gasglu” o’r broses o baratoi cais i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?

Gwnes i ystyried fy mhroffesiwn lawer yn fwy manwl oherwydd y broses. Er mwyn gwneud fy nghais, roedd angen i mi ddisgyblu fy hun i ddechrau darllen a gwneud ymchwil unwaith yn rhagor – sef pethau sydd yn aml yn disgyn oddi ar yr agenda pan fyddwch yn brysur yn addysgu.

Sut mae hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn ystyried addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd addysg uwch?

Erbyn hyn rwy’n teimlo fy mod i’n haddysgwr llawer mwy ‘addysgedig’ a fy mod i’n well o ran rhoi arweiniad a chymorth i’m cydweithwyr yn yr adran. Mae gennyf afael strategol gwell ar fy mhroffesiwn.

Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi?

Mae pob un ohonynt yn bwysig ac yn cefnogi ei gilydd.

Beth oedd rhannau da’r broses ymgeisio? Pa bethau oedd yn fwy heriol?

Y rhannau da: Trwy gwblhau’r cais, sylwais yr hyn roeddwn i’n ei wneud yn dda, a meddwl mwy am y sgiliau trosglwyddadwy roeddwn yn eu cynnig i’r proffesiwn ac yn eu defnyddio bob dydd.

Y rhannau heriol: Rhaid dweud bod y broses yn teimlo’n ddirboenus, ac nid oedd y platfform roedd yn rhaid i ni ei ddefnyddio ar gyfer y cais mewnol, sef PebblePad+, yn addas at y diben. Dim ond un o’r pedwar o bobl o’r Ysgol Reolaeth a lwyddodd ar yr ymgais cyntaf, a phe na bawn i wedi llwyddo, nid wyf yn siŵr a fyddwn i wedi ailymgeisio.

Sut rydych chi wedi parhau i gymhwyso safonau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich gwaith ers cael y gydnabyddiaeth honno? Hynny yw, cynnal safon dda.

Rwy’n cymhwyso’r safonau hynny yn fy ngwaith bob dydd ac yn cefnogi fy nghydweithwyr.

I rywun nad yw’n siŵr os yw am wneud cais neu beidio, pa eiriau y gallech eu cynnig i’w annog?

Mae cydnabyddiaeth broffesiynol yn bwysig mewn unrhyw ddiwydiant, ac nid yw addysg uwch yn eithriad. Er fy mod i eisoes yn cael fy nghydnabod yn broffesiynol mewn un ddisgyblaeth, mae cael Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch ar ba bynnag lefel, yn gosod meincnod ar gyfer eich ymarfer.

Pa argymhellion y byddech yn eu cynnig i rywun sy’n paratoi cais am Gymrodoriaeth – unrhyw gategori?

Rhowch ddigon o amser i chi eich hun. Meddyliwch yn eang am eich profiad, nid fel ymarferydd addysg uwch yn unig. Yn sicr, byddwch yn fwy medrus nag y byddwch yn sylweddoli, a bydd defnyddio dull ‘cyflawn’ wrth fyfyrio yn eich helpu i gysylltu’n ddyfnach â’ch proffesiwn.

Leave a Reply

Your email address will not be published.