(delwedd gan Debbie Baff @debbaff)
Mae fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus SALT wedi selio ar addysgeg a thystiolaeth. Mae wedi cael ei fapio i Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) yr AAU a fydd yn ymgorffori Bathodynnau Digidol lle’n bosib.
Yr amcanion yw i:
- Cefnogi staff i wella’u hansawdd dysgu
- Cynnig gweithgareddau ar gyfer rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff
- Gosod disgwyliadau sy’n berthnasol i ddatblygiad proffesiynol
- Datblygu a chynorthwyo amrediad llydan o ddiffiniadau datblygiad proffesiynol parhaus
- Gwella ansawdd dysgeidiaeth myfyrwyr a chanlyniad i fyfyrwyr
Mae wedi cael eu ffurfio o’r elfennau canlynol yma:
Rhaglen Cynhadledd
Mae ein cynhadledd flynyddol yn uchafbwynt yng nghalendr SALT.
Rhaglen Drws Agored
Ymagwedd Datblygu Proffesiynol Parhaus yw addysgu drws agored, a arloeswyd ym Mhrifysgol Curtin yng ngorllewin Awstralia, sy’n cael ei datblygu yma yn Abertawe ar hyn o bryd.
Ymagwedd golegol at rannu arfer addysgu ardderchog yw hon, drwy arsylwi ar athrawon da a siarad â hwy am eu harfer wedi hynny.
TUAAU ar gyfer Staff Dysgu Newydd
Mae SALT wedi bod yn gyfrifol o’r TUAAU (Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch) am ddwy flynedd ac rydym yn dechrau gyda’n trydedd garfan eleni.
Llwybr Cais Abertawe ar gyfer Cydnabyddiaeth yr AAU
Mae’r llwybr gais mewnol (SAR) ar gyfer gymrodoriaeth yr AAU wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd. Mae’r canlyniad o hwn wedi gweld cynnydd yn nifer o staff gyda chymrodoriaeth. Nawr, mae gan Abertawe dros 300 cymrawd ac mae’r Brifysgol ar daflwybr.
Am ragor o wybodaeth am y broses a beth allwn wneud i’ch helpu, cliciwch yma.
Elfen cyrsiau bach o’r TUAAU ar gyfer holl staff y Brifysgol
Mae cyrsiau o’r TUAAU ar gael i bawb, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud y TUAAU.
Er enghraifft, Cynwysoldeb.
Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL)
Sesiynau cefnogi a datblygu ar y themâu TEL ar gael o ADAA drwy gydol y flwyddyn, gellir dod o hyd i’r rhain o dan y rhan Digwyddiadau.
- Ymweld â’n Padlet TEL
Datblygiad Proffesiynol Parhaus o’ch cadair
Dyma ddewis o DPP hunangynhwysol. Rhai bach a rhai mawr !
Er enghraifft:
Pob eicon ar y dudalen hon o: Icons8