Frenzy Ysgrifennu Cymrodoriaeth yr AAU – Dysgu drwy Ddull Gwahanol “Pomodoro Time Management Technique™”

Yn blog cyntaf y gyfres yma, fe wnes i amlinellu’r rhesymeg ar gyfer darparu dulliau gwahanol o Gefnogaeth Ysgrifennu ar gyfer ymgeiswyr Cymrodoriaeth yr AAU, ar ffurf diwrnod strwythuredig gan ddefnyddio amser cyfyng, sesiynau ysgrifennu ag amcanion a’r adborth wnaethon ni derbyn ar y dull yna. Y fi wnaeth trefnu’r sesiwn ond ges i cymorth oddi wrth fy nghydweithiwr, Darren Minister.

Isod, rydw i’n darparu fy adlewyrchiadau ar y math yma o ddysgu â chymorth.

Gwersi ddysgwyd wrth cynnig sesiwn ag arddull “Pomodoro”

Dechrau’r sesiwn ar amser. Gyda nifer bach o fynychwyr, roedd aros am y rhai hwyr/rhai na ddaw wedi effeithio amserlen ein diwrnod ac fe wnaethon ni newidiadau ‘ar hap’.

Rhannu amcanion ac adborth gyda chyfranogwyr – roedd yr oediad i ddechrau’r diwrnod ac aros i ddal i fyny ar amser a gollwyd, yn golygu fy mod wedi colli’r rhan allweddol o annog y cyfranogwyr i rannu eu hamcanion ac i rannu trafferthion. Felly, mae efallai cael pawb at ei gilydd ar y diwedd i rannu amcanion ac i roi adborth ar allgynnyrch yn hanfodol (Flint, 2017, Kent, 2017); mae’r colegoldeb yn ystod y digwyddiadau yma’n bwysig iawn hefyd (Kramer a Libhamer, 2016).

Ai dyma dysgu? Fel hyrwyddwyr, roeddem ni’n teimlo wedi grymuso ac yn gobeithio yr oeddem ni’n helpu. Ond, i mi yn bersonol, roedd yna’r argyfwng hunaniaeth. Ydw i wir yn dysgu? Nid ydw i wrth y blaen yn rhannu ffeithiau a gwybodaeth, ond dwi wedi cynllunio a gosod yr amgylchedd, y disgwyliadau cyn y sesiwn a dwi yna i gefnogi ac i hyrwyddo. Felly, dwi’n tybio mai dysgu yw hwn!

Fel hyrwyddwr, mae o hyd rôl gennych! Mae eistedd i lawr pan fo’r cyfranogwyr yn adlewyrchu neu’n ysgrifennu yn swnio’n hawdd, ond roedd yn flinedig! Nid ydych yn gallu ‘ymlacio’ ac yn troi’ch sylw i ysgrifennu papur eich hun neu i weithio ar dasg fawr. Wrth gwrs, dylech fod yn dawel ac yn anymwthiol ond i’r rhai sydd â chwestiynau, rhaid i chi fod yn barod i adael beth efallai rydych yn gwneud a mynd i helpu. Rhaid i chi hefyd fod yn llym ac aros i’r amser penodedig.

Yn ddelfrydol, dylid cyfranogwyr bod yn yr un man o ddatblygu’ cais – roedd yn her i gefnogi’r staff oedd braidd wedi dechrau’r broses ac roedd ganddynt lawer o gwestiynau i gymharu â’r rhai oedd wedi gwneud y cynllunio, deall y ffurflen gais ac roedd wedi dechrau ysgrifennu. Mae Kent (2017) yn nodi gwerth rhannu gwerthoedd cyfoedion wrth ddarparu enciliadau ysgrifennu ar gyfer academyddion yn eu gyrfa gynnar, er enghraifft.

Symud Ymlaen

Yn ddiweddar, fe wnaethom holi am “Enciliadau Ysgrifennu” y dyfodol; ar ddiwedd y tymor yma a dechrau’r tymor nesaf.  Gadewch i ni wybod beth rydych chi’n meddwl trwy gwblhau’r arolwg yma: https://bit.ly/2kHbwVt

Byddwn yn ystyried y pwyntiau uchod yn ein cynllunio a throsglwyddiad o’r rownd nesaf.

Peidiwch adael i’ch adlewyrchiad yn Hydref 2020 fod fel hyn:

 

Cyfeirnodau:

Flint E. (2017) “The Tale of the Squished Pomodoro: using writing groups to support Professional Recognition applications” Blogpost https://teachingacademyblog.wordpress.com/2017/09/19/the-tale-of-the-squished-pomodoro-using-writing-groups-to-support-professional-recognition-applications/ accessed September 23 2019.

Kramer, B. and E. Libhaber (2016) “Writing for publication: institutional support provides an enabling environment” BMC Medical Education, London Vol. 16,  (2016). https://doi.org/10.1186/s12909-016-0642-0

Kent, A. et al (2017) “Promoting writing amongst peers: establishing a community of writing practice for early career academics” Higher Education Research and Development, Volume 36, 2017 – Issue 6, 1194 – 1207  https://doi.org/10.1080/07294360.2017.1300141

 

Leave a Reply

Your email address will not be published.