Pan gyrhaeddais ym Mhrifysgol Abertawe yn gyntaf, roedd ymarfer cynhwysol ac amrywiaeth ond yn agwedd roeddwn yn dyheu i gynnwys o fewn fy mhedagogeg. Sylweddolais fod llawer gyda mi i ddysgu. Y mwy roeddwn i’n dysgu, y mwy roeddwn i’n sylweddoli byddai hwn yn ddatblygiadol iawn a byddwn wastad yn dysgu. Y rhan orau o’r broses yma oedd bod y dysgu yn brofiad a rennir yn hytrach nag ond darllen a gweithredu’r hyn ddysgais i. Roeddwn yn rhwydweithio â chyd-weithwyr a myfyrwyr nid yn unig o Brifysgol Abertawe ond o Brifysgolion arall ac asiantaethau allanol hefyd. Roedd yn braf i weithio gydag eraill a dim ar ben fy hun. I mi, roedd bod yn ddarlithydd yn swydd unig ac roedd cyfleoedd i rannu ymarferion pedagogeg yn brin. Mae fy rôl yn SALT wedi galluogi i mi gyrraedd holl feysydd Brifysgol Abertawe gan ddarganfod yr arbenigedd sydd gennym yma. I ddechrau, cefais drafferth i ddarganfod yr adnoddau yma gan fod llawer o’n cyd-weithwyr yn dda am beidio brolio am y pethau arbennig maent yn gwneud. Felly, unwaith i mi ddarganfod nhw, penderfynais rannu nhw a dyma’r rheswm i mi ddatblygu tri pheth:
Y peth cyntaf oedd map meddwl Cymorth Prifysgol Abertawe, sydd â dolenni i’r prif ardaloedd ar gyfer cymorth i staff a myfyrwyr. O’r dolenni yma dylech ddarganfod popeth sydd angen i’ch helpu chi neu’ch myfyrwyr ym mater cynwysoldeb.
Yr ail beth oedd platfform i rannu syniadau , felly creais y blog yma. Gobeithiais byddai’n lle er mwyn rhannu ymarfer gorau, astudiaethau achos, adroddiadau newydd a pholisïau cyfoes. Mae o hyd yn ddyddiau cynnar ond mae gennym obaith.
Y trydydd peth gwnes i oedd newid patsh Cynwysoldeb TUAAU i mewn i fodiwl Datblygiad Parhaus Proffesiynol i holl staff y Brifysgol. Yn awr, mae’r adnoddau rydw i wedi casglu ac addasu ar gyfer Abertawe yn cael eu rhannu i’r staff i gyd, nid ond darlithwyr gyrfa gynnar. Yn amlwg, os rydych yn darllen hwn byddwch yn gwybod i gyd am y modiwl. Felly, eich swydd chi yw ychwanegu adnoddau ac i rannu arfer da rydych yn darganfod. Pob hwyl ar eich Siwrnai Cynwysoldeb, gofynnwch am fathodyn!