Crempog a’r UKPSF (peidiwch daflu’r Babi allan gyda’r dŵr ymolchi!)

A wnaethoch chi grempog ar gyfer Dydd Mawrth Ynyd? Beth oedd eich rysáit? Eich hoff ffordd o goginio?

Wrth wneud crempog yr wythnos hon ac wrth edrych ar eraill yn gwneud, fe ddaeth y trosiad i mi, mae dysgu fel gwneud crempog. Yr athrawon yw’r cogyddion a’r myfyrwyr yw’r crempog.

Rydym yn gallu cael yr un cynhwysion craidd o fflŵr, wyau a llaeth (gyda pheth amrywiad yn fy nhŷ i!), ond gyda phedyll o feintiau a mathau gwahanol (fflat neu ochrau), menyn neu olew i iro’r badell, gwres o’r fflam, troi gyda neu heb sbatwla, gallwch gael amrywiaeth o ganlyniadau. Os nad yw wedi coginio digon – fydd yn dda i fwyta ond siŵr a bod gyda digon o gnoi ynddo. Mae rhai yn troi allan fel wyau wedi sgramblo. Os rydych yn cymryd eich llygad oddi wrtho – gall llosgi. Ar ôl iddo goginio, mae yna amrywiaeth o bethau i fynd ar ei ben, dyma adnabod yr amrywiaeth yn ein dysgwyr a’u dewis nhw.

Fel ein myfyrwyr, mae athrawon (cogyddion) yn wahanol ac yn amlweddog. Nid oes yna un maint sy’n ffitio pawb ac nid oes yna ddull dysgu penodol ychwaith.

Dyma’r neges sydd wedi dod wrth drafod ‘beth yw eich trosiad chi’ am ddysgu, gyda myfyrwyr ar y TUAAU a thrwy siarad â chydweithwyr. Mae yna lawer o lenyddiaeth ynglŷn â throsiadau ar gyfer dysgu, beth mae pob un yn golygu. Cawsom drafodaeth ddeniadol ar beth oedd lluniau yn ‘dweud’ i’n cydweithwyr fel athrawon, a pha drosiad oedd gysylltiedig â’r llun.

Yna, fe atgyfnerthir hwn yn seminar cyfres y 7C Dydd Mercher (6ed o Fawrth) lle wnaeth Dr Nigel Francis rhannu ei brofiad dysgu fel rhagflaenydd o amgylch ei stori am drosi’r dosbarth. Gan ddefnyddio dyfyniad gan Jay Cross siaradwyd Nigel am arddulliau dysgu, ai mynd ar fws, gosod y siwrnai i’r myfyrwyr sydd wedi diflasu ac yn edrych allan drwy’r ffenest, neu, ar daith beicio gyda nhw, ble byddant weithiau’n siglo, cwympo a mynd ar drywydd gwahanol, ond yn cyrraedd yr un lle yn y diwedd wrth rymuso’r beicwyr.

Wrth ddweud hynny, efallai bod gennym arddull dewisol i addysgu, ond beth wnaeth taro fi oedd y ffaith bod ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gan ddibynnu ar lefel o astudiaeth, cefndir a phrofiad blaenorol y myfyrwyr, o fewn yr un sesiwn dysgu, ar draws modylau. Fe wnaeth Nigel amlinellu hynny mewn rhai amgylchiadau, lle bo’ dysgu gweithredol yn ddymunol yn y rhan fwyaf o achosion, efallai bod lle ar gyfer dysgu didactig – ond efallai dyna’r adnoddau rydych yn ‘trosi’.

I ddyfynnu idiom – “peidiwch daflu’r Babi allan gyda’r dŵr ymolchi’’ (https://dictionary.cambridge.org/dictionary/english/throw-the-baby-out-with-the-bathwater) –
i ddulliau addysgu a strategaethau a all fod yn effeithiol mewn amgylchiadau penodol. Mae’n werthfawr i chi gyfarparu eich hun gyda’r strategaeth briodol ar gyfer y gweithgaredd dysgu yr ydych yn ei wynebu.

 

Dyma le mae cyfnewidfa hyblyg dimensiynau ymarfer UKPSF yn dod i ystyriaeth ac rydych chi’n cydnabod eich hun fel Cymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae’r UKPSF, sy’n cael ei bortreadu fel rhyngweithio trionglog rhwng yr Ardaloedd Gweithgaredd, Gwybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol, mae’r addysgu yn llawer mwy cymhleth, trosgaen a hylif nag y mae’r diagram yn ei awgrymu.

Felly, rhai pethau i feddwl amdanynt. Beth yw eich trosiad i’ch arddull addysgu?

Nodiadau’r Golygydd:

Mae yna flog yn benodol ar sesiwn Nigel yn dod yn fuan ac mae yna ailadroddiad o sesiwn Nigel ar 15 Mai 2019 – archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/7cs-seminar-becoming-a-better-teacher-the-flipped-classroom-tickets-57723896729

Rhagor o fanylion ynglŷn â chyfres seminar 7C: https://spark.adobe.com/page/vUuxhmKq2iJkz/

Hefyd, trefnwyd sgwrs ar-lein wythnos Mai 13 i drafod gwahaniaethau yn eich arddulliau. Mwy o fanylion i’w dilyn.

Mae trosiad bws/beic Jay Cross yn ymddangos yn “Informal Learning: Rediscovering the Natural Pathways That Inspire Innovation and Performance” 2006, cyhoeddwyd gan Pferiffer & Company

Leave a Reply

Your email address will not be published.