Frenzy Ysgrifennu Cymrodoriaeth yr AAU – Gweithredu ‘Pomodoro Time Management Technique™

Fe wnaeth y Tîm Cydnabyddiaeth (yn cynnwys fi, Darren Minister a Natalie Morgan) trefnu Frenzy Ysgrifennu, mynychwyd 7 ymgeisiwr ar gyfer Cymrodoriaeth/Uwch Gymrodoriaeth yr AAU ar Ddydd Gwener Medi 6ed 2019. Fe wnaethon ni ceisio dull newydd i gefnogi ysgrifennu ar gyfer ymgeiswyr Cymrodoriaeth yr AAU, sef y “Frenzy”. Dyma rhan cyntaf o flog dau rhan, yn adlewyrchu ar dull newydd o ddosbarthu cefnogaeth dysgu.

Wrth ei alw’n Frenzy Ysgrifennu Cymrodoriaeth, o bosib, mae’n rhoi’r argraff o ystafell llawn bobl yn sgrechain, teipio, ac efallai melodramâu pan fo’r bloc ysgrifennu’n taro. O bosib, tamaid o hwn.

Empty notepad with some scrumpled paper at the side

 

 

 

 

 

Ond, dim dyna’r sefyllfa. Gan ddefnyddio ‘Pomodoro Time Management Technique™’ (Cirillo F, 2018), fe wnes i ddefnyddio dull â ddefnyddir gan cyd-weithiwr, Dr. Kate Cuthbert o Brifysgol Nottingham Trent (@Cuthbert_Kate). Y dull oedd i ond ddarparu cyfranogwyr â chaffein, snacs a lle i ysgrifennu – gyda thamaid o arweiniad. Nid oedd yna cyfle ar gyfer adborth ffurfiannol ar y cynnwys ysgrifennir, gan fod y cyfleoedd ar gael yn barod ar gyfer hynny.

Sut oedd yn wahanol i’n sesiynau cefnogol presennol?

Mae’r sesiynau arall fel arfer yn 3 awr o hyd ac yn ofynnol o gwblhau gwaith cartref, trafodaethau yn y dosbarth, archwilio awgrymiadau da gydag amser cyfyng i ysgrifennu. Mae’r rhan fwyaf o fynychwyr wedi gwerthfawrogi’r gweithgareddau o edrych ar ddyfyniad/esiampl o gais Cymrodoriaeth, gweithredu meini prawf Cymrodoriaeth, ystyried yr argymhelliad ac adborth. Maent â’r bwriad o rhoi’r gwybodaeth yna i drafft eu hun, er hynny, nid oes llawer o amser yn cael ei wario yn ysgrifennu stori eu hun yn ystod y sesiynau hynny.

Yn Frenzy mis Medi, wedi arwain gan adnoddau darparwyd gan Kate Cuthbert, fe wnaethon ni addasu cyfres o weithgareddau mewn blociau o 30 munud (K2, K3) o 10 -2.30y.p., gyda gwybodaeth o beth sy’n gwneud cyfrif effeithiol ac ar ddiwedd y diwrnod, gofynion y ffurflen gais ac awgrymiadau oddi wrth un o’n haseswyr (K1). I ddechrau, fe wnaethon ni annog mynychwyr i gynllunio eu diwrnod gan ddefnyddio’r Dadansoddiad o Anghenion gyda choethder o amcanion sbesiffig i ddod â synnwyr o lwyddiant argymhellir drwy’r dull yma (K2, K3).

Pam wnaethon ni geisio rhywbeth newydd?

Mae ein sesiynau ‘arferol’ yn rhedeg yn ystod y tymor ac maent wedi rhestri’n ofalus wrth nesáu at ddyddiadau cyflwyno cais. Mae rhestri’r sesiynau yn ystyried cyfnod gwyliau ac yn osgoi marcio arholiadau ac ymrwymiadau graddio. O fis Hydref 2018, maent wedi bod yn opsiynol ac yn y rhan fwyaf o achosion, ond nifer bach o fynychwyr. Nid yw mynychu sesiwn yn sicrhau llwyddiant y tro cyntaf ar gyfer cais (mae’r niferion wedi bod yn fach iawn, felly nid yw cymedr y canlyniadau yn ddilys), ond rydym eisiau gallu cynnig cymorth i’n cydweithwyr. Felly, fe wnaethon ni ofyn y cwestiynau i’n hun:

  • Ydy’r “gwaith cartref” sydd yn angenrheidiol o flaen llaw i’r sesiynau arferol yn rhoi pobl bant?
  • A yw’r amser a/neu pan maent yn cael eu cynnig yn anghyfleus?
  • A yw teitlau’r sesiynau yn ddifflach?
  • A yw’r argaeledd cyffredinol yn broblem? Pryd sydd eisiau cynnal y sesiynau?

Mae adborth o’r sesiynau dros y blynyddoedd wedi bod yn bositif ond mae’n ymddangos bod argaeledd amser ac hefyd oediad yw’r rhesymau allweddol sy’n effeithio ar gyfranogiad person. Felly, roedd sesiwn canolbwyntiedig i weld yn briodol i gyfeirio at beidio ysgrifennu (Oakley, 2015; Flint, 2019).

A fyddwn ni’n ei alw’n enciliad ysgrifennu (neu oedd hynny i weld yn rhy ‘dwys’?). Fe wnaethon ni eithrio am gymaint o gyflythreniad ag sy’n bosib, ‘Fellowship Friday Writing Frenzy’ – i gyfleu bach o sbort hefyd.

Nid yw Enciliadau Ysgrifennu’n newydd, fe wnes i gynnig sesiynau tebyg iawn, ‘Shut up and Write’ yn y dyddiau cyntaf o hybu Cymrodoriaeth yr AAU. Ni allwch ond dynodi ‘diwrnod ysgrifennu’. Mae cael tamaid o strwythur a ffocws yn bwysig; dangosir ymchwil diweddar werth dull strwythuredig ar wella proses ysgrifennu ar gyfer staff academig sy’n paratoi cyhoeddiadau ymchwil (Kempenaar a Murray, 2019 a Kramer a Libhaber, 2016). Mae yna amrywiaeth o fathau o ‘grwpiau ysgrifennu’ gall cael eu ffurfio i gefnogi ysgrifennu cyffredinol/ysgrifennu ymchwil (Rockquemore K-A, 2019).

Felly, Beth? Oedd y fformat newydd yn llwyddiannus?

Nid yw diffinio “llwyddiant” NEU “effaith” yn syml iawn fel bydd y rhai sy’n cefnogi dysgu yn tystio.

  • A yw llwyddiant wedi mesur yn y nifer o eiriau ysgrifennwyd mewn diwrnod?
  • Gwelliant mewn adnabod amcanion sbesiffig?
  • Ansawdd o adborth ysgrifenedig ar ddrafftiau?
  • Os yw’r cais yn llwyddiannus y tro cyntaf?
  • A yw cysylltiadau newydd wedi creu i fabwysiadu cefnogaeth a/neu gydweithrediad?
  • Cynnydd hyder ar gyfer yr ysgrifennydd?

Dywed Kate Cuthbert, peth allweddol ar gyfer y sesiwn oedd yr amgylchedd dysgu – i’w gwneud yn gyfforddus ond yn groesawgar. Ar y waliau roedd gennym dyfyniadau ysbrydoledig am ysgrifennu ac adlewyrchiad, y Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF), canllawiau am y gwahaniaeth rhwng Cymrodoriaeth ac Uwch Gymrodoriaeth, ar y fordydd, losin mintys i gadw pawb i fynd, ac yn bwysicach, lluniaeth a bisgedi!

Llwyddiannus? Wrth i rai ffeindio’r amser i ysgrifennu yn y sesiwn yn rhy fyr – 25 munud – yr adborth oedd:

Roedd angen yr amser ar lle i ffwrdd o’r swyddfa i ddechrau fy ysgrifennu

Roedd y sesiwn yn “ddiwrnod defnyddiol iawn, wedi strwythuro’n dda, yn drefnus” ac roedd wedi darparu “cyfle i weithio heb ymyriadau”.

Fe wnaeth staff y Tîm Cydnabyddiaeth darparu “cyngor clir a wybodus am y broses”.

Nid oedd yna adborth am yr amgylchedd dysgu! Rhywbeth i feddwl am ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol.

Symud Ymlaen

Yn ddiweddar, fe wnaethom holi am “Enciliadau Ysgrifennu” y dyfodol; ar ddiwedd y tymor yma a dechrau’r tymor nesaf.  Gadewch i ni wybod beth rydych chi’n meddwl trwy gwblhau’r arolwg yma: https://bit.ly/2kHbwVt

Mae staff y Tîm Cydnabyddiaeth yn barod i gynnig amrywiaeth o ddulliau i’ch helpu paratoi eich ceisiadau Cymrodoriaeth. Ond, nid allwn ysgrifennu’r cais i chi. Rhaid i chi adlewyrchu ar stori eich hun.

Peidiwch adael i’ch adlewyrchiad yn Hydref 2020 fod fel hyn:

&nb

 

 

Edrychwch allan am ran 2 o’r gyfres yma.

Cyfeirnodau:

Cirillo, F. (2018) The Pomodoro TechniqueTM: The Life-Changing Time-Management System, Virgin Books: London

Flint E. (2017) “The Tale of the Squished Pomodoro: using writing groups to support Professional Recognition applications” Blogpost:  https://teachingacademyblog.wordpress.com/2017/09/19/the-tale-of-the-squished-pomodoro-using-writing-groups-to-support-professional-recognition-applications/ accessed September 23 2019.

Kramer, B. and E. Libhaber (2016) “Writing for publication: institutional support provides an enabling environment” BMC Medical Education, London Vol. 16,  (2016). https://doi.org/10.1186/s12909-016-0642-0

Kempenaar, L. and R. Murray (2019) “Widening access to writing support: beliefs about the writing process are key” Journal of Further and Higher Education; Abingdon Vol. 43, Iss. 8,  (Oct 2019): 1109-1119. https://doi.org/10.1080/0309877X.2018.1450964

Oakley, Barbara (2015) “Ketchup on work with the PomodoroTM method”, The Times Educational Supplement; London Iss. 5163,  (Sep 11, 2015).

Rockquemore K-A (2019) Monday Motivator series: May 13 2019: http://www.facultydiversity.org/ Reposted in https://tomprof.stanford.edu/posting/1734

One Comment

  1. Pingback: HEA Fellowship Writing Frenzy – Learning from a Different Approach Pomodoro Time Management TechniqueTM – Swansea Academy of Learning and Teaching

Leave a Reply

Your email address will not be published.