Mae Turnitin, ynghyd â’r tŵls integredig marcio sgrin Feedback Studio, yn ymestyn trwy holl sector addysg uwch yn y DU ac yn wir, y byd. Mae ar y ffordd i fod yn hollbresenoldeb !
Mae’r system gwirio tebygrwydd yn gwirio gwaith myfyrwyr yn syth gan ddefnyddio cydnabyddiaeth patrymau ac yn erbyn cronfeydd data wrth gynnwys 45+ biliwn o dudalennau we, 337+ miliwn o bapurau myfyrwyr a 130+ miliwn o erthyglau o lyfrau academig a chyhoeddiadau. Mae’r adroddiad yn dangos ffynonellau unigol wrth adael i chi ddeall pa ran sy’n wreiddiol a pa ran sydd ddim, gan alluogi’r academydd i wneud dyfarniad ynghylch a oes yna faterion yn ymwneud ag ysgrifennu a chyfeirnodi, neu os oes Uniondeb Academaidd yn cael ei drin hefyd.
Mae Feedback Studio yn hyrwyddo marcio ar lein, wrth arbed amser yr hyfforddwyr a rhoi adborth sy’n fwy cefnog i fyfyrwyr gan ganiatáu sylwadau’n unionsyth ar y sgript. Mae banciau sylwadau personol yn gynwysedig sydd yn arbed amser wrth osgoi ail deipio’r un sylwadau drosodd a throsodd. Mae hefyd yn cynnwys nodweddion megis teclyn rhuddell a recordydd llais sydd yn caniatáu sylwadau wedi’u recordio.
Darperir Canllawiau ar Stiwdio Adborth yng Nghwrs DPP Turnitin Canvas wedi’i anelu at Staff Prifysgol Abertawe. (Cliciwch ar yr hyperddolen i gofrestru).