Cynhaliodd SALT ddigwyddiad yn Creu Taliesin yn ddiweddar i ddathlu ac i ystyried y cysylltiad rhwng dyfarnu gwobr Aur FfRhA i Abertawe a’r addysgu a’r cymorth i fyfyrwyr ardderchog a gydnabuwyd gan y gwobrau ELTA ac ESSA.
Agorodd y Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Martin Stringer y digwyddiad trwy wneud cysylltiad rhwng rhagoriaeth a gwobr Aur FfRhA gan hyrwyddo rôl bwysig barhaus dysgu ac addysgu a chymorth i fyfyrwyr rhagorol yn ein datblygiad sefydliadol.
Yna cynigiodd pob un o’r enillwyr ELTA 2018 eu safbwynt ar eu dull, wedi iddynt fyfyrio ar yr enwebiadau a arweiniodd atynt yn ennill y wobr.
Bu’n ddigwyddiad ardderchog (er i mi ddweud hynny fy hun!) a gynigiodd nifer o fewnwelediadau i athrawon a chafwyd lefel wych o gyfnewid syniadau yn yr ystafell. Bu hefyd yn ddigwyddiad a oedd yn haeddu cynulleidfa ehangach felly mae fideos o gyfraniadau enillwyr yr ELTA wedi’u plannu isod !