Y Seminarau Tawel yn Newid

Students supporting one another – peer feedback
Mae myfyrwyr yn cefnogi ei gilydd – Adborth gan gyfoedion

Mae gan Heidi Yeandle nifer o rolau addysgu ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n llunio modiwl MA yn yr adran Llenyddiaeth Saesneg ac yn goruchwylio Traethodau Hir BA ac MA tra ei bod hefyd yn gweithio i’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd ac Ymgyrraedd yn Ehangach. Isod mae’n trafod ei defnydd o “seminar ddistaw” wrth addysgu myfyrwyr israddedig.

Twitter LogoHeidi Yeandle – Twitter: @HeidiYeandle

Os ydych chi’n gyfarwydd ag arwain seminarau mae’r cysyniad o ddistawrwydd mewn seminarau’n un eich bod siŵr o fod wedi’i brofi ac fel arfer gellir dibynnu ar yr un grŵp (bach) o fyfyrwyr i dorri’r distawrwydd hwnnw. Mewn ymdrech i annog rhai o’r myfyrwyr tawelaf i gyfrannu yn ystod trafodaethau seminar penderfynais beilota “seminar ddistaw”. Roeddwn wedi darllen crynodeb byr o’r dechneg hon mewn rhestr o “fodelau seminar” lle y mae myfyrwyr yn cyfathrebu ar bapur yn hytrach nag ar lafar i ymateb i gwestiynau mewn amgylchedd seminar. Disgwyliais y byddai’n ffordd ryngweithiol o gynnwys mwy o fyfyrwyr yn rhan o drafodaethau.

Cynheliais dreial o’r gweithgaredd hwn mewn seminar ar ddetholiad o gerddi Emily Dickinson. Gofynnwyd i fyfyrwyr ddarllen ychydig o’i barddoniaeth cyn dod i’r dosbarth a rhoddwyd ychydig o gwestiynau iddynt eu hystyried er mwyn paratoi ar gyfer y seminar. Yn y dosbarth, rhannwyd myfyrwyr yn grwpiau bach a rhoddwyd un o’r cerddi hyn i bob grŵp, wedi’u hargraffu ar dudalen A3 mewn ffont fawr. Gofynnwyd iddynt wneud nodiadau ar y cerddi o ran themâu penodol, yr iaith a ddefnyddir a thechnegau barddonol (yn unol â’r cwestiynau). Ar ôl 5 munud, cafodd y cerddi eu cylchdroi felly derbyniodd pob grŵp ddarn o bapur A3 gyda cherdd wahanol arni gan gynnwys sylwadau a dehongliadau’r grŵp blaenorol. Gofynnwyd i fyfyrwyr barhau i wneud nodiadau ar y cerddi ond hefyd i ddarllen y nodiadau eraill ac ychwanegu atynt gan feddwl am ddehongliadau amgen neu a oedd modd cymharu neu gyferbynnu â cherdd arall gan Dickinson gan felly annog myfyrwyr i ryngweithio â myfyrwyr eraill yn y dosbarth heb siarad. Parhaodd y cerddi i symud rhwng y grwpiau nes i fyfyrwyr dderbyn y gerdd a oedd ganddynt yn wreiddiol gan roi cyfle iddynt weld sut yr ymatebodd gweddill y grwpiau i’r gerdd a sut wnaethant ei dehongli. Ar y pwynt hwn, symudodd y seminar i weithgareddau ysgrifenedig unigol yn seiliedig ar y farddoniaeth. Dilynwyd hyn gan dderbyn adborth gan gymheiriaid a rhoddwyd ychydig o ganllawiau ar gyfer hyn.

Mae’n werth nodi nad oeddwn wedi dweud wrth y myfyrwyr y byddai’r sesiwn yn seiliedig ar gyfathrebu’n ysgrifenedig ac ni ddefnyddiais y term “seminar ddistaw” – gosodwyd y gweithgareddau ar gyfer y myfyrwyr ac ni ofynnwyd iddynt weithio arnynt mewn distawrwydd. Siaradodd rhai o’r grwpiau gyda’i gilydd yn dawel cyn ac yn ystod y broses o wneud nodiadau ar y cerddi tra bod grwpiau eraill heb siarad. Mewn gwirionedd cafwyd “seminar ddistaw” o ganlyniad ond diwallwyd fy nod o gynnal “seminar ddistaw” – gwnaethpwyd nodiadau ar y cerddi gan y myfyrwyr tawelaf gan gyflwyno dehongliadau nad oeddent wedi’u cynnig yn ystod yr wythnos pan gafwyd trafodaethau ar lafar ac roeddent hefyd wedi cael cyfle i ymateb i fyfyrwyr eraill a derbyn adborth ar eu dehongliadau gan eu cymheiriaid. O ganlyniad cafwyd dadansoddi manwl iawn o’r cerddi unigol yn ogystal â throsolwg o rai agweddau allweddol o farddoniaeth Dickinson yn gyffredinol. Roedd yr adborth llafar a dderbyniwyd ar gyfer y wers yn galonogol iawn – dywedodd y myfyrwyr ei bod yn ddefnyddiol er mwyn trafod cymaint o bethau a darllen ac adeiladu ar ddehongliadau pobl eraill. Fodd bynnag, dywedwyd nad oedd modd gweld y gweithgaredd yn gweithio cystal ar gyfer nofel. Cytunaf na fyddai trafod nofel gyfan yn ystod “seminar ddistaw” yn gynhyrchiol ond ceir sgôp ar gyfer cynnal dadansoddiad manwl iawn ar ddarn o nofel yn y dull hwn. Yn ogystal â darnau byr o lenyddiaeth gellid defnyddio’r fformat “seminar ddistaw” ar gyfer disgyblaethau gwahanol. Gellid ei ddefnyddio ar gyfer trafod ffotograffiaeth/celf yn ogystal ag astudiaethau achos i ddetholiad o astudiaethau ar bwnc penodol neu i archwilio dulliau damcaniaethol gwahanol. Yn ehangach gellid defnyddio’r dechneg ar gyfer derbyn adborth gan gymheiriaid – rwyf wedi defnyddio amrywiaethau o’r model hwn wrth addysgu sut i ysgrifennu traethodau ar gyfer y Rhaglen Llwyddiant Academaidd ac rwyf wedi gweld ei bod yn annog myfyrwyr i roi adborth adeiladol mewn amgylchedd o’r math.

Os ydych chi’n ystyried arbrofi gyda’r dull hwn dylech gadw mewn cof nad oes modd i fyfyrwyr fynd â’r nodiadau adref os defnyddir darnau mawr o bapur i wneud nodiadau. Dylech roi digon o amser i fyfyrwyr dynnu lluniau ohonynt neu benderfynu eu llungopïo a’u gosod ar Blackboard er mwyn cael mynediad i’r gwaith hwn. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weld a chadw copi o’r nodiadau terfynol ar gyfer pob testun y byddant wedi’u colli fel arall. Wrth fynd ymlaen, ystyriaf ddefnyddio offer mapio meddwl ar-lein megis GoConqr a fyddai’n fy ngalluogi i goladu’r nodiadau yn fapiau meddwl gan roi cerddi yn y canol (ar gyfer enghraifft y farddoniaeth) a chyfle i fyfyrwyr barhau i ychwanegu atynt.

Diolch i Dr Samantha Buxton am fy nghyflwyno i’r math feddalwedd yn ei chyflwyniad yn ystod Cynhadledd Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe 2016.

 

Comments are closed.