Cymrodoriaeth yr AAU yn Abertawe

Wedi’ rhestri isod, gan Goleg/Gwasanaeth Proffesiynol, yw rhestr o staff sydd gyda chategori o Gymrodoriaeth; Cymrawd Cyswllt/Cymrawd/Uwch Gymrawd neu Prif Gymrawd ac sydd wedi cytuno cael eu henwau ar ein gwefan.  Mae yna ragor o staff nag sydd wedi rhestri.

HEAFellowsWebSiteListJune2021 (21/6/2021)

Os hoffech chi dderbyn cydnabyddiaeth gan Gymrodoriaeth AAU trwy Lwybr Cyflwyno Cais Abertawe bydd angen o leiaf UN datganiad gan gefnogwr a dylai hwn gael ei ddarparu gan Gymrawd presennol sy’n gyfarwydd â’ch ymarfer (yma neu mewn sefydliad arall).

Fodd bynnag, mae mwy o staff sy’n meddu ar y gydnabyddiaeth hon nag a restrir yma. Efallai y byddant yn fodlon darparu datganiad o gefnogaeth ar gyfer eich cais ar gyfer Cymrodoriaeth AAU a/neu arsylwi ar eich addysgu os ydych chi wedi’ch cofrestru ar raglen Tystysgrif Ôl-raddedig AU SALT.

Os na allwch chi ddod o hyd i rywun addas o’ch Coleg a allai lunio datganiad o gefnogaeth, cysylltwch â’r Tîm Cydnabyddiaeth yn SALT am gymorth pellach.

I gydymffurfio gyda chyfundrefn newydd Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), rydym yn ymofyn cytundeb staff gyda Chymrodoriaeth eu bod nhw’n hapus i ni gyhoeddi eu henwau. Gall y rhestr uchod newid wrth i’r broses hon fynd rhagddynt.

Os na welwch chi eich enw yma, gwiriwch eich record ar system ABW y Brifysgol. Os nad yw eich Cymrodoriaeth wedi nodi, mae’n bosib eich bod wedi’ gael cyn eich cyflogi yma yn Abertawe.

I gofrestri eich bod chi nawr yn gweithio yn Abertawe ac yn gymwys i ‘wneud eich cydnabyddiaeth yn gyhoeddus’, ewch i My Advance HE ar wefan Advance HE a newidiwch eich cysylltiad cyfundrefnol i Abertawe. Danfonwch ebost i salt@abertawe.ac.uk i ddweud eich bod chi wedi newid eich cysylltiad cyfundrefnol ac felly allwn ni ddiweddaru eich record ar ABW.

Am ragor o fanylion sut i wneud hwn, gwelwch y Daflen Cyfarwyddyd ar Newid eich Cysylltiad Cyfundrefnol.

I gael copi o’ch Tystysgrif Cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yr AAU, ewch i MyAcademy ar wefan yr AAU lle allwch chi lawr lwytho fersiwn PDF. Am ragor o fanylion, gwelwch y ddogfen cyfarwyddyd yma, Cael eich Tystysgrif Cymrodoriaeth yr AAU.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published.